RED SHOES Poster Archive collaboration with UNISON Cymru
Profiled posters

Cydweithrediad Archif Bosteri ESGIDIAU COCHION ag UNISON CymruPosteri sy’n cael sylw

RED SHOES Poster Archive curator, Shaun Featherstone shares some insights into some of the posters selected for the display.

It’s very common for limited information to be available about posters like these, for example how many were produced or for what particular campaigns. Perhaps you know? We’d love to hear from you and hear your stories – please get in touch.

Several of the posters featured are available to purchase via the archive.

Dyma guradur Archif Bosteri ESGIDIAU COCHION, Shaun Featherstone, yn rhannu mewnwelediadau o’r posteri a ddewiswyd ar gyfer yr arddangosfa.

Mae’n gyffredin iawn i wybodaeth fod yn brin ynghylch posteri fel y rhain, er enghraifft faint a gynhyrchwyd neu ar gyfer pa ymgyrchoedd yn benodol. Efallai eich bod chi’n gwybod? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych a chlywed eich straeon – cysylltwch â ni.

Mae nifer o’r posteri dan sylw ar gael i’w prynu trwy’r archif.

Don’t buy apartheid. Peidiwch a phrynu apartheidby Unknown artist, c1985. Wales

This was donated to RED SHOES Poster Archive in 2021 by Cor Cochion (Red Choir). It was part of a large collection of posters rescued by choir members after their comrade Dave King passed away and his home was being cleared. The poster was used by Wales Anti Apartheid Movement (WAAM) in its campaigns against the racist South African apartheid regime. WAAM were consistent and progressive in their use of bilingual materials at a time when this was far from commonplace. In 2016, Hanef Bhamjee, secretary of WAAM, wrote “we had a very strong relationship with Cymdeithas yr Iaith”

Don’t buy apartheid. Peidiwch â phrynu apartheid
Artist anhysbys, c1985. Cymru

Rhoddwyd hwn i Archif Bosteri ESGIDIAU COCHION yn 2021 gan Gôr y Cochion. Roedd yn rhan o gasgliad mawr o bosteri a achubwyd gan aelodau’r côr ar ôl i’w cyfaill Dave King farw pan oeddent yn clirio ei gartref. Defnyddiwyd y poster gan Fudiad Gwrth Apartheid Cymru (WAAM) yn ei ymgyrchoedd yn erbyn cyfundrefn apartheid hiliol De Affrica. Roedd WAAM yn gyson ac yn flaengar yn eu defnydd o ddeunyddiau dwyieithog ar adeg pan oedd hyn ymhell o fod yn gyffredin. Yn 2016, dywedodd Hanef Bhamjee, ysgrifennydd WAAM, “roedd gennym ni berthynas gref iawn â Chymdeithas yr Iaith”

Pits and Perverts: Lesbians and Gays
Support the Miners
by Kevin Franklin, 1984. UK

This poster has strong Welsh connections being produced to raise money for striking South Wales miners and their families, and featured in the film ‘Pride’. It was produced for a solidarity fundraiser in London in late 1984. It has become an iconic symbol of queer solidarity and heritage. Colin Clews from Gay in the 80s writes “The ‘Pits and Perverts’ image epitomises one of the many times when lesbians and gay men stood up in the face of violence and intimidation; in the face of disapproval and demonisation and, by so doing, progressed the cause of queer rights in the UK.”

Pits and Perverts: Lesbians and Gays
Support the Miners
gan Kevin Franklin, 1984. Y DU

Mae gan y poster hwn gysylltiadau Cymreig cryf, gan iddo gael ei gynhyrchu i godi arian ar gyfer glowyr De Cymru oedd ar streic a’u teuluoedd, ac mae’n cael sylw yn y ffilm ‘Pride’. Fe’i cynhyrchwyd ar gyfer digwyddiad codi arian ar gyfer yr ymgyrch yn Llundain tua diwedd 1984. Mae wedi dod yn symbol eiconig o undod hoyw a threftadaeth. Ysgrifenna Colin Clews o Gay in the 80s “Mae’r ddelwedd ‘Pits and Perverts’ yn enghraifft gref o’r holl adegau y safodd lesbiaid a dynion hoyw yn gadarn yn wyneb trais a bygythiad; gwrthwynebiad a phardduo a, thrwy wneud hynny, symud ymlaen gydag achos hawliau hoyw yn y DU.”

A Great Wave
by Katherine Anteney, 2020. UK

The artist notes “I had wanted to use this line from Warsan Shire’s poem Home for a long time. The whole poem is fantastic but I think this one line puts to bed any notion that migrant people make decisions lightly when they leave their homeland.“ Katherine made this in the 400th anniversary year of the sailing of the Mayflower, and says “it is perhaps time to examine our attitudes to migration. Who is ‘discovering a new world’ and who is a blight on an existing way of life?” This simple, powerful image is now a very popular poster.

 

A Great Wave
gan Katherine Anteney, 2020. Y DU

Mae’r artist yn nodi “Roeddwn i wedi bod eisiau defnyddio’r llinell hon o’r gerdd Home gan Warsan Shire ers amser maith. Mae’r gerdd gyfan yn wych, ond rwy’n meddwl bod yr un llinell hon yn rhoi terfyn ar unrhyw syniad bod pobl sy’n ymfudo’n gwneud penderfyniadau’n ysgafn pan fyddant yn gadael eu mamwlad.” Aeth Katherine ati i lunio hwn ym mlwyddyn dathlu 400 mlynedd ers hwylio’r Mayflower, a dywed “efallai ei bod hi’n bryd edrych yn ddwys ar ein hymagweddau at ymfudo. Pwy sy’n ‘darganfod byd newydd’ a phwy sy’n difetha ffordd o fyw sydd eisoes yn bodoli?” Mae’r ddelwedd syml, bwerus hon bellach yn boster poblogaidd iawn.

Warehouse Workers for Justice: Earth Day
to May Day: demand justice 2
by Aaron Hughes, 2020. USA

This poster was produced during the first year of the Covid pandemic to highlight the need to protect ordinary frontline workers in the run up to the 50th anniversary of Earth Day “a mass mobilization to bring together labor, immigration, and environmental justice communities in Chicago. The coronavirus has drastically changed the political landscape in which we operate, and we will not be able to gather in the streets…. In the coming weeks, we demand immediate, direct economic relief for community members and workers who need it most, rather than bailouts to corporations and shareholders.”

 

Warehouse Workers for Justice: Earth Day to May Day : demand justice
2gan Aaron Hughes, 2020. UDA

Cynhyrchwyd y poster hwn yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig Covid i dynnu sylw at yr angen i amddiffyn gweithwyr rheng flaen cyffredin yn y cyfnod yn arwain at 50 mlynedd ers Diwrnod y Ddaear. “mudiad torfol i ddod â chymunedau llafur, mewnfudo a chyfiawnder amgylcheddol at ei gilydd yn Chicago. Mae’r coronafeirws wedi newid y dirwedd wleidyddol yr ydym yn gweithredu ynddi yn sylweddol, ac ni fyddwn yn gallu ymgynnull ar y strydoedd…. Yn ystod yr wythnosau nesaf, rydym yn mynnu cymorth economaidd uniongyrchol ar unwaith i aelodau’r gymuned a gweithwyr sydd ei angen fwyaf, yn hytrach na chymorth ariannol i gorfforaethau a chyfranddalwyr.”

Keep Your Laws Out of My Drawers
by Lesley Numbers, 2017. USA

This 1960s inspired graphic is a playful statement and comment on women’s reproductive rights. It’s message to lawmakers and legislators is clear. Lesley Numbers is a Wisconsin based artist educator specialising in print and community practice. She creates special prints such as this for causes she cares about and has made this image freely available through Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International License.

Keep Your Laws Out of My Drawers
gan Lesley Numbers, 2017. UDA

Mae’r graffig hwn a ysbrydolwyd gan y 1960au yn ddatganiad ac yn sylw chwareus ar hawliau atgenhedlu menywod. Mae ei neges i’r rhai sy’n llunio deddfau’n glir. Mae Lesley Numbers yn addysgwr celfyddydol o Wisconsin sy’n arbenigo mewn argraffu ac ymarfer cymunedol. Mae hi’n creu printiau arbennig fel hwn ar gyfer achosion sy’n bwysig iddi hi, ac mae hi wedi sicrhau bod y ddelwedd hon ar gael trwy Drwydded Ryngwladol 4.0 Creative Commons Attribution-NonCommercial.

NUPE Equality
by unknown artist, 1980. UK

Not too much is known about these two N.U.P.E. (National Union of Public Employees) posters. We can date them to between 1975 and 1985 as they use a logo commissioned in 1975 for the United Nations International Women’s conference in Mexico in 1975 and freely used throughout the U.N. decade for women (1975 – 1985). The logo design uses three visual elements in common use at the time representing women, peace and equality. We also know from the small print on the poster it was printed in the UK for N.U.P.E. by a recognised trade union printers with printworks in Welshpool and Enfield.

 

NUPE Equality
artist anhysbys, 1980. Y DU

Nid oes llawer o wybodaeth gennym am y ddau boster N.U.P.E. (Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyhoeddus) hyn. Gallwn eu dyddio i rhwng 1975 a 1985 gan eu bod yn dangos logo a gomisiynwyd yn 1975 ar gyfer cynhadledd Ryngwladol Menywod y Cenhedloedd Unedig ym Mecsico ym 1975, ac a ddefnyddiwyd yn aml trwy gydol degawd y menywod y Cenhedloedd Unedig (1975 – 1985). Mae dyluniad y logo yn dangos tair elfen weledol a oedd yn cael eu defnyddio’n gyffredin ar y pryd gan gynrychioli menywod, heddwch a chydraddoldeb. Gwyddom hefyd o’r print mân ar y poster iddo gael ei argraffu yn y DU ar gyfer N.U.P.E. gan argraffwyr undeb llafur cydnabyddedig oedd â gweithdai argraffu yn y Trallwng ac Enfield.